BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Herio doethineb confensiynol

Wrth fynd ati i wireddu eich gweledigaeth, rydych yn siŵr o ddod ar draws rhwystrau sydd naill ai angen eu llywio neu eu goresgyn. Weithiau gallai'r rhain fod yn rheolau neu'n ffyrdd penodol o feddwl sy'n eich atal rhag cymryd camau penodol a fyddai'n cyflymu'ch taith i lwyddiant. Gallai rhwystrau o'r fath gael eu creu gan ddoethineb confensiynol – term a ddefnyddir i ddisgrifio syniadau neu esboniadau a dderbynnir yn gyffredinol fel y gwir gan y cyhoedd neu gan arbenigwyr yn y maes. Fodd bynnag, mae'r term hefyd yn awgrymu bod y syniadau neu'r esboniadau, er yn boblogaidd, heb eu harchwilio'n iawn, ac felly gellir eu hailwerthuso ar ôl eu harchwilio ymhellach.

Mae llawer ohonom yn cynnal ac yn byw ein bywydau o fewn fframwaith yr egwyddorion doethineb sefydledig hyn. Gallant lywio ein bywyd personol, ein perthnasoedd, ein gwaith a'n datblygiad proffesiynol. I lawer ohonom, gallant gael dylanwad pellgyrhaeddol ar y ffordd rydym yn meddwl ac yn ymddwyn. Mae hyn yn berthnasol i unigolion a sefydliadau. Fodd bynnag, rhaid ichi gydnabod y gall doethineb confensiynol gyfyngu eich meddwl a chreu ffiniau i'ch dyheadau. Gall gamddehongli eich bwriadau ac awgrymu nad yw rhai pethau'n bosibl, pan fyddant mewn gwirionedd.

Felly, pan fydd meddwl confensiynol yn rhwystro'ch llwybr, mae'n bwysig nad oes gennych ofn cwestiynu hynny, er mwyn pennu ai doethineb go iawn yw e neu dim ond barn ddogmatig ar sut mae pethau'n gweithredu neu'n cael eu gwneud. Mae'n bwysig nad ydych yn derbyn y math hwn o ddoethineb yn ddi-gwestiwn. Os gwnewch chi hynny, efallai y byddwch yn colli'r cyfle i ganfod a yw'n gywir ai peidio, ac yn rhywbeth a allai'ch rhwystro rhag ceisio gwireddu'ch gweledigaeth. Gallai profi nad yw doethineb confensiynol o reidrwydd yn dal dŵr, gael gwared ar rwystr mae pawb arall yn gorfod ei oresgyn, ac felly roi mantais i chi o gymharu â'ch cystadleuwyr.

“Nofio YN ERBYN y llif fydd yn helpu i dynnu sylw pawb atoch." Tim Waterstone

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.