Horizon Ewrop sy'n olynu Horizon 2020 fel rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw nesaf yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cael ei chynnal rhwng 2021 a 2027 gyda chyllideb gwerth tua €100 biliwn.
Gan fod y DU yn Wlad Gysylltiedig, gall ymchwilwyr, busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru gymryd rhan yn Horizon Ewrop ar delerau cyfatebol i rai’r aelod-wladwriaethau. Mae cyfleoedd ymgeisio cyntaf Horizon Ewrop ar agor ac mae sefydliadau'r DU yn gymwys i wneud cais.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae gan raglen Horizon Ewrop drwyddi draw gyfleoedd i Fusnesau Bach a Chanolig. Gyda chyllideb o €10 biliwn am y cyfnod 2021-2027, mae Cyngor Arloesi Ewrop (EIC) yn elfen newydd allweddol o Horizon Ewrop sy’n cefnogi busnesau bach a chanolig. Mae'r EIC yn cefnogi syniadau arloesol sydd â photensial o dorri tir newydd a tharfu a chael eu datblygu ar raddfa fawr, a allai fod yn ormod o risg i fuddsoddwyr preifat. I gael manylion am gyfleoedd, ewch i wefan Cyngor Arloesi Ewrop (europa.eu).
Mae cyllid grant drwy SCoRE Cymru yn parhau i fod ar gael i sefydliadau yng Nghymru wneud ceisiadau o ansawdd uchel i Horizon Ewrop.
Am ragor o wybodaeth a manylion ymgeisio, gweler: https://llyw.cymru/canllaw-score-cymru.
Cysylltwch â Thîm Horizon Ewrop i gael manylion pellach: HorizonEurope@gov.wales