BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024

Clean energy, recycling logos

Mae Llywodraeth Cymru wrth ei bodd y bydd Cymru'n cynnal yr Hotspot Economi Gylchol Ewropeaidd 2024: Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024 ar 7 i 9 Hydref 2024 yng Nghaerdydd.

I gofrestru ar gyfer Hotspot, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Hotspot Economi Gylchol Cymru 7 - 9 Hydref 2024.

Yn y digwyddiad rhyngwladol hwn, byddwn yn rhannu llwyddiannau a dyheadau economi gylchol Cymru, ac yn dysgu am atebion economi gylchol gan y sector cyhoeddus, y sector preifat, a chymunedau o Gymru a thu hwnt. Bydd cyfle ichi ymgysylltu'n uniongyrchol â phrosiectau o Gymru o feysydd diwydiant, busnes, cyrff cyhoeddus, academia, a'n trefi a dinasoedd.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.