BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hyfforddiant Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd a Chydnerthedd

Planet earth in a shape of a heart

Wrth i’r newid yn yr hinsawdd gyflymu ac amlder a difrifoldeb digwyddiadau tywydd, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd, mae angen i chi wneud cynlluniau i sicrhau bod eich busnes a’ch cadwyn gyflenwi gyfan yn wydn.

Drwy adolygu ac asesu risg gwendidau posibl, gall eich busnes adeiladu gwytnwch a chymryd agwedd ragweithiol sy’n ymwybodol o’r hinsawdd tuag at eich gweithrediadau a’ch cadwyn gyflenwi yn awr ac yn y dyfodol.

Trwy ymuno â'r hyfforddiant gwerthfawr rhad ac am ddim hwn byddwch yn ennill gwybodaeth, technegau rheoli ac offer ymarferol - gan gynnwys templedi defnyddiol y gellir eu haddasu - y gallwch eu defnyddio i sicrhau bod eich busnes yn cymryd camau priodol a chymesur i baratoi ac addasu ar gyfer dyfodol hinsawdd anrhagweladwy.

Ymunwch â Bwyd a Diod Cymru bob pythefnos am 3 gweithdy rhyngweithiol, a fydd yn rhoi i chi:

  • Sgiliau rheoli i ddelio â’r annisgwyl
  • Camau ymarferol i baratoi ar gyfer siociau a straen yr hinsawdd
  • Templedi y gellir eu golygu i’w teilwra i anghenion eich busnes
  • Yr opsiwn ar gyfer sesiwn ddilynol 121

I gael rhagor o wybodaeth, ac i gofrestru dewiswch y ddolen ganlynol: Hyfforddiant Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd a Chydnerthedd ar Gyfer Gweithgynhyrchwyr Bwyd a Diod yng Nghymru (bic-innovation.com)

Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Bwyd a Diod Cymru - Tyfu gyda'n gilydd | Business Wales - Food and drink (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.