Mae bron i hanner y boblogaeth oedran gweithio yn y DU yn cynnwys menywod, a menywod dros 50 oed sy’n cynrychioli’r rhan o’r gweithlu sy’n cynyddu gyflymaf, felly prin yw’r gweithleoedd lle nad yw’r menopos yn cael ei brofi gan eich gweithwyr neu rywun sy’n agos atynt.
Heb gymorth priodol, mae llawer o fenywod a phobl â symptomau’r menopos yn teimlo dan orfodaeth i leihau eu horiau, ymatal rhag cael dyrchafiad neu hyd yn oed roi’r gorau i’w swyddi oherwydd diffyg cymorth.
Mae angen i fenywod a phobl yn y gweithle deimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo’n llawn er mwyn eu galluogi i barhau i ffynnu a chyfrannu â hyder. Mae hyn yn hanfodol, nid yn unig i sicrhau eu bod yn gallu ffynnu, ond i ddangos potensial llawn busnesau yn y DU, a’n heconomi ehangach.
Mae’r adnodd hwn ar gyfer cyflogwyr a’u gweithwyr o sefydliadau mawr neu fach sy’n chwilio am ganllawiau yn gysylltiedig â’r menopos ar gyfer y gweithle. Mae’n cynnwys dolenni at adnoddau y gallwch eu rhannu â’ch gweithwyr a bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Gallwch ddefnyddio offer a chyngor i’ch helpu i gynorthwyo’ch gweithwyr a thyfu’ch gweithle: Menopause support: For employers - Help to Grow