Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi lansio cronfa dwristiaeth Y Pethau Pwysig gwerth £5 miliwn ar gyfer 2023 i 2025.
Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ar draws Cymru.
Mae prosiectau blaenorol a ariannwyd gan Y Pethau Pwysig wedi cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gwell cyfleusterau toiledau ac i geir, cyfleusterau Changing Places hygyrch a gwell arwyddion a phaneli dehongli.
Bydd Y Pethau Pwysig hefyd yn cefnogi prosiectau sy'n gwella hygyrchedd mewn safleoedd a'r rhai sy'n gwneud eu cyrchfannau'n fwy amgylcheddol gynaliadwy.
2023 yw Blwyddyn Llwybrau Cymru sy'n rhoi cyfle i'r sector twristiaeth arddangos atyniadau, tirweddau ac arfordir drwy ffyrdd a llwybrau. Bydd Y Pethau Pwysig yn annog Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol i ystyried y profiad cyfan i ymwelwyr a'r seilwaith hanfodol sy'n gwneud profiad llwybr yn gyflawn, o lwybrau, i barcio i sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bawb.
Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 16 Mawrth 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyllid | Drupal (gov.wales)