BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol i hyrwyddo’r Gymraeg a threftadaeth Cymru

person draped in a Welsh flag

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru.

Rôl y rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol yw cefnogi pobl sy’n ymgartrefu yn ein cymunedau ledled Cymru i ddysgu mwy am Gymru, yr iaith a’i phwysigrwydd i’r gymuned, rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fusnesau ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg, a gweithio’n lleol i gynnal a chryfhau rhwydweithiau cymdeithasol.

Gall unrhyw berson neu fusnes wirfoddoli i ddod yn llysgennad a hynny drwy gwblhau modiwlau rhyngweithiol byr am hanes y Gymraeg a’i sefyllfa heddiw. Ar ôl cwblhau’r modiwlau ar wefan Llysgennad Cymru, mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn tystysgrif, bathodyn, sticer ffenest, a phecyn gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael fel gwasanaeth cyfieithu am ddim i gymunedau, unigolion a sefydliadau trydydd sector.

I ddysgu mwy am y cynllun a sut i ddod yn llysgennad, ewch i 'Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol: Llysgenhadon Cymru' (ambassador.wales)

Mae’r modiwlau Efydd yn cymryd tua 20 munud i’w cwblhau, a gall y llysgenhadon benderfynu beth fyddant yn ei wneud i gefnogi’r Gymraeg yn eu cymuned.

Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyngor a chyfieithu Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.