BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio cynllun Taliadau Tanwydd Amgen

O 6 Chwefror 2023, bydd aelwydydd ledled Prydain nad ydynt yn defnyddio nwy o’r prif gyflenwad ar gyfer gwresogi yn dechrau derbyn £200 tuag at eu biliau ynni wrth i’r cynllun Taliadau Tanwydd Amgen (AFP) lansio. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael y £200 yn awtomatig ar ffurf credyd i’w bil trydan, ond bydd angen i rai cwsmeriaid wneud cais am y cymorth yn nes ymlaen fis yma.

Bydd y mwyafrif helaeth, gan gynnwys llawer o gartrefi mewn ardaloedd gwledig, yn ei gael yn awtomatig trwy eu cyflenwr trydan ar ffurf credyd ar eu bil yn ystod mis Chwefror. Bydd angen i leiafrif bach o gwsmeriaid, fel y rhai sy’n byw mewn cartrefi mewn parciau neu mewn cwch preswyl statig heb gyflenwr ynni uniongyrchol, wneud cais am y taliad trwy borth ar-lein a fydd yn lansio nes ymlaen fis yma. 

O 8 Chwefror 2023 ymlaen, bydd cyflenwyr ynni hefyd yn gallu dechrau gwneud taliadau i fusnesau ac i sefydliadau’r sector cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol sy’n defnyddio tanwyddau amgen i gynhesu eu hadeiladau. Bydd credyd o £150 yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid cymwys ar draws y DU trwy’r Cynllun Taliad Tanwydd Amgen Annomestig (ND-AFP). Bydd cyflenwyr yn darparu’r cymorth hwn hyd at 10 Mawrth 2023, gan ddisgwyl y bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn ei gael yn nes ymlaen fis yma. Nid oes angen cysylltu â’ch cyflenwr.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Aelwydydd, busnesau a sefydliadau oddi ar y grid nwy i gael cymorth â biliau ynni dros yr wythnosau nesaf - GOV.UK (www.gov.uk) 

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.