BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio hyfforddiant gwrth-hiliaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym meysydd gofal plant a gwaith chwarae

Mae darpariaeth ac adnoddau dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL) newydd, o safon uchel, bellach ar gael am ddim i ymarferwyr sy’n darparu gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin ac sy’n gweithio gyda babis a phlant ifanc, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, sy’n galw am ddim goddefgarwch tuag at bob math o hiliaeth.

O ystyried pwysigrwydd gofal plant a gwaith chwarae o ran cefnogi datblygiad plant ac addysg gynnar a'r economi ehangach, mae'r adnoddau wedi'u datblygu fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Mae dysgu proffesiynol gwrth-hiliaeth ar gyfer gofal plant, gwaith chwarae a'r blynyddoedd cynnar yn adeiladu ar lwyddiant y ddarpariaeth debyg ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg yn 2022.

Ariannwyd y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru, drwy fuddsoddiad parhaus yn y prosiect DARPL i gefnogi gwaith partneriaeth gyda'r gwasanaeth CWLWM.

Gall y sector gael mynediad at y ddarpariaeth dysgu proffesiynol hon yma: DARPL - Diversity and Anti-Racism Professional Learning

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Darpariaeth Dysgu Proffesiynol Wrth-hiliol i’r sector Gofal Plant, Gwaith Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar (12 Mai 2023) | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.