BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lleihau’r cyfnod hunanynysu

Bydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif. Dyna yw’r cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw.

Rhaid i’r ddau brawf llif unffordd negatif gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o’r cyfnod hunanynysu.

Gwneir y newidiadau hyn ar ôl archwiliad trylwyr o’r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a bydd Cymru’n ymuno â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig sydd eisoes wedi rhoi’r newid hwn ar waith.

Daw’r newid hwn i rym o 28 Ionawr 2022, pan ddisgwylir i Gymru gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero.

Bydd cyfnod hunanynysu byrrach yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau drwy leihau’r pwysau ar y gweithlu o ganlyniad i absenoldebau staff cysylltiedig â COVID.

Bydd y cymorth ariannol drwy’r Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu yn dychwelyd i’r gyfradd wreiddiol o £500 i gydnabod y cyfnod hunanynysu byrrach. Bydd pobl sydd angen cymorth gyda chasglu hanfodion fel nwyddau o’r siop a meddyginiaeth o’r fferyllfa yn gallu cael cymorth drwy eu hawdurdod lleol a sefydliadau gwirfoddol. 

Os yw rhywun yn profi’n bositif am COVID-19, neu os ydynt yn hunanynysu fel achos positif ar hyn o bryd, rhaid iddynt hunanynysu am bum diwrnod llawn a chymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod pump a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach ar ddiwrnod chwech.

Os yw’r ddau ganlyniad yn negatif, mae’n debygol nad ydynt yn heintus ac fe gânt roi’r gorau i hunanynysu.

Ond bydd rhaid i unrhyw un sy’n profi’n bositif ar ddiwrnod pump neu ar ddiwrnod chwech barhau i hunanynysu hyd nes y byddant wedi cael dau brawf negatif o fewn 24 awr, neu hunanynysu tan ddiwrnod 10, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.Cymru a Datganiad Ysgrifenedig: Lleihau'r cyfnod hunanynysu i bum niwrnod (26 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.