BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru ar drywydd i ddyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru

Heddiw (23 Mehefin 2023), dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, fod Llywodraeth Cymru ar drywydd i fwy na dyblu nifer y busnesau yng Nghymru sy’n eiddo i’w gweithwyr fel rhan o’i hymdrechion i sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn parhau yn nwylo Cymru.

Un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yw dyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn ystod tymor hwn y Senedd, gan ddarparu mwy o gymorth i weithwyr brynu busnesau.

Ym mis Mai 2021, roedd 37 o fusnesau yn eiddo i weithwyr, gyda tharged o gyrraedd 74 erbyn mis Mai 2026.

Datgelodd y Gweinidog heddiw fod 63 o fusnesau bellach yn eiddo i weithwyr yng Nghymru, ac mae’r Gweinidogion yn disgwyl cyrraedd y targed i ddyblu’r nifer hwn cyn diwedd tymor hwn y Llywodraeth.

Ar gyfartaledd, mae dau i dri busnes yn cael eu prynu gan weithwyr yng Nghymru bob blwyddyn, ond mae graddfa’r sector busnesau sy’n eiddo i weithwyr wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae potensial i lawer mwy o weithwyr fod yn berchen ar fusnesau.

Mae sawl mantais i hyn o safbwynt y gweithiwr a’r busnes, gyda thystiolaeth yn dangos bod busnesau sy’n eiddo i weithwyr yn llawer mwy cynhyrchiol ac yn fwy cadarn. Maent hefyd wedi’u lleoli yn eu hardaloedd a’u rhanbarthau lleol, sy’n darparu swyddi hirdymor o ansawdd yng nghymunedau Cymru.

Mae gwasanaethau Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig cymorth arbenigol i helpu gweithwyr i brynu busnesau. Mae cymorth ariannol llawn a chymorth wedi’i deilwra ar gael i helpu perchnogion busnes i benderfynu ai perchnogaeth gan weithwyr a chynlluniau cyfranddaliadau yw’r ateb cywir ar gyfer eu busnes.

Ar ben hynny, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru a ddarperir gan Banc Datblygu Cymru yn cynnig trywydd cyllido posibl sy’n seiliedig ar ddyled i helpu gweithwyr i brynu busnes, gyda chymorth ar gyfer pryniant gan reolwyr ar gael drwy Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cwmpas i hyrwyddo manteision a datblygiad perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn ymwybodol o'r cyfleoedd y mae'n ei chynnig.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: Perchnogaeth gan Weithwyr | Busnes Cymdeithasol Cymru (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.