Mae perchnogaeth gan weithwyr yn golygu bod gan bob gweithiwr fuddiant arwyddocaol ac ystyrlon yn y busnes.

Os yw buddiant rheolaethol yn eich busnes yn cael ei ddal gan neu ar ran yr holl weithwyr (y perchnogion-weithwyr), gelwir hyn yn fusnes a berchnogir gan weithwyr.  Ewch i wefan Perchnogaeth Gweithwyr Cymru i gael cyngor pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn ar Berchnogaeth Gweithwyr, Cynlluniau Cyfranddaliadau ac opsiynau cynllunio olyniaeth yn eich busnes.


Modelau perchnogaeth gan weithwyr

Mae rhai busnesau a berchnogir gan weithwyr wedi’u strwythuro’n gonfensiynol, lle mae’r gweithwyr yn berchen ar gyfranddaliadau’n uniongyrchol trwy eu prynu’n syml, trwy gynllun cymhelliad cyfranddaliadau sy’n fanteisiol o ran treth neu drwy gynllun opsiwn prynu cyfranddaliadau.

Gellir dosbarthu busnes a berchnogir gan weithwyr yn gwmni cydweithredol gweithwyr os oes rhyw fath o lais cynrychiadol neu ddemocrataidd i weithwyr, yn unol ag egwyddorion cydweithredol rhyngwladol.

Mae cwmnïau cydweithredol gweithwyr yn dangos ymrwymiad i egwyddorion wrth weithredu, fel caniatáu i bob gweithiwr cymwys ddod yn aelod o’r cwmni cydweithredol. Mae aelodau cwmnïau cydweithredol yn cymryd rhan yn y broses o’i lywodraethu ar sail un aelod, un bleidlais.  

Mae busnesau eraill a berchnogir gan weithwyr yn cael eu dal gan Ymddiriedolaeth cyfranddaliadau gweithwyr, sy’n berchen ar gyfranddaliadau ac yn gweithredu er budd yr holl weithwyr. 


Rhesymau dros berchnogaeth gan weithwyr

Byddech yn ystyried perchnogaeth gan weithwyr os yw perchennog y busnes eisiau ymddeol a gwerthu’r busnes i’r gweithwyr. Gallai hefyd gael ei ddefnyddio fel modd o gynyddu ymgysylltiad ac ymrwymiad gweithwyr. Gall hyn helpu i gefnogi rhaglen fuddsoddi a sicrhau buddsoddwyr allanol trwy well strwythur perchnogaeth.

Gallai perchnogaeth gan weithwyr ddigwydd hefyd o ganlyniad i waredu, lle mae busnes eisiau gwerthu is-gwmni, neu realeiddio buddsoddiad gan berchennog y busnes neu un o’r partneriaid busnes. Fel arall, gallai fod yn strategaeth achub ar gyfer busnes sy’n gwneud yn wael ac sy’n wynebu mynd yn fethdal neu gael ei ddiddymu, o bosibl.

Gallai cwmnïau cydfuddiannol gwasanaeth cyhoeddus, lle mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn gwneud cais i gymryd drosodd y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu (a elwir yn aml yn gwmnïau deillio gwasanaeth cyhoeddus), fod yn rheswm i weithwyr brynu’r busnes hefyd.

I gael mwy o wybodaeth, gweler y Gwasanaeth Gwybodaeth am Gwmnïau Cydfuddiannol ar wefan GOV.UK. 


Perchnogaeth gan weithwyr – ffynonellau cyllid

Mae amryw ffynonellau cyllid ar gael i fusnesau perchnogaeth gan weithwyr. Os oes gan y cwmni ddigon o arian gwario ar hyn o bryd i gyllido’r pris prynu cyfan neu ran ohono, neu os rhagwelir y bydd ganddo ddigon o arian i wneud hynny, naill ai mewn un cyfandaliad neu dros gyfnod o flynyddoedd, gallech ystyried cyllido gan y cwmni.

Fel arall, gall y gweithwyr godi arian o’u hadnoddau personol, neu dderbyn cyfranddaliadau gan y perchnogion fel rhoddion. Mae cyllid benthyciadau yn ddewis hyfyw hefyd, ac felly hefyd gyllid gan dŷ cyllid, sy’n fwy o risg na chyllid benthyciadau confensiynol ac sy’n disgwyl adenillion uwch. Cyfeirir at yr olaf fel cyllid mesanîn.

Os yw entrepreneur, tîm rheoli neu deulu yn gwerthu busnes, efallai y byddant yn fodlon derbyn eu harian dros amser. Gelwir hyn hefyd yn gyllid gwerthwr.  


Dysgwch fwy am wahanol agweddau cwmnïau a berchnogir gan weithwyr:

Ewch i wefan Perchnogaeth Gweithwyr Cymru 

Beth yw’r strategaeth ymadael orau i mi, fy nghleientiaid a’m gweithwyr? 

Cynllun perchnogaeth cyfranddaliadau gweithwyr a’r broses y mae’n rhaid i’ch busnes ei dilyn 

Beth yw busnes a berchnogir gan weithwyr? Cwestiynau cyffredin 

Mae perchnogaeth gan weithwyr yn ymwreiddio eich busnes yn y gymuned 

Sut gallaf werthu fy musnes i’m gweithwyr? 

Paratoi i weithwyr brynu eich cwmni 

Buddion treth perchnogaeth gan weithwyr  


Rydym yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes cymdeithasol. Rydym wedi rhestru isod rai o’r adnoddau mwy defnyddiol ar berchnogaeth gan weithwyr: