Mae’r broses o drosglwyddo i berchnogaeth gan weithwyr yn debyg iawn i Brynu gan Reolwyr.

Y prif wahaniaeth yw’r grŵp mwy o randdeiliaid sy’n buddsoddi yn y busnes a’r trefniant Ymddiriedolaeth bosibl a sefydlir i reoli buddiannau’r gweithwyr. 

Canllaw i symud i berchnogaeth gan weithwyr

Gallai proses drosglwyddo nodweddiadol ddilyn y drefn ganlynol: 

  1. Trafodaethau cychwynnol â pherchnogion y busnes. 
  2. Gwerthuso potensial perchnogaeth gan weithwyr/rheolwyr. 
  3. Prisio’r cwmni. 
  4. Datblygu model perchnogaeth a strwythur cytundeb. 
  5. Cynllunio busnes ar gyfer cwmni newydd/tîm rheoli newydd. 
  6. Cytuno ar gynnig i brynu’r busnes gan y tîm prynu. 
  7. Cyflwyno cynnig ‘mewn egwyddor’ i’r perchnogion. 
  8. Codi cyllid. 
  9. Cytuno ar Benawdau’r Telerau.
  10. Gwaith cyfreithiol – Gwerthu a Phrynu, Cytundebau Ymddiriedolaeth, Cwmni Ymddiriedolaeth. 
  11. Cwblhau.
  12. Cymorth ar ôl cwblhau. 

A hoffech chi siarad â rhywun am berchnogaeth gan weithwyr?

Cysylltwch â Busnes Cymru trwy ffonio 03000 603 000 a dyfynnu ‘EO2016’. Byddwn yn falch o drefnu trafodaeth anffurfiol ag un o arbenigwyr Busnes Cymdeithasol Cymru ar berchnogaeth gan weithwyr.

Cyn gwneud y penderfyniad terfynol, darllenwch fwy o gwestiynau cyffredin am berchnogaeth gan weithwyr.