How to sell your business to your employees 

Mae tair prif ffordd o werthu eich busnes i’ch gweithwyr.

Bydd yr un a ddewiswch yn dibynnu ar eich bwriadau ar gyfer eich busnes neu eich strategaeth ymadael, yn ogystal â’ch disgwyliadau chi a’ch gweithwyr wrth symud i berchnogaeth gan weithwyr.

Mae perchnogaeth gan weithwyr wedi’i seilio ar ddyrannu cyfranddaliadau sy’n cynrychioli buddiant y gweithiwr yn y cwmni. Yn yr un modd ag unrhyw gyfranddaliadau a ddelir, mae cyfran 51% yn y cwmni yn gyfystyr â buddiant rheolaethol. 

Perchen ar gyfranddaliadau yn uniongyrchol

Dyrennir cyfranddaliadau i weithwyr yn y cwmni, neu caniateir iddynt eu prynu. Mae hyn yn rhoi perchnogaeth uniongyrchol iddynt ar y cyfranddaliadau a ddelir, ynghyd â hawliau pleidleisio a difidend a briodolir i’r mathau hynny o gyfranddaliadau. Gallwch osod terfynau ar sut, ble a phryd y gall gweithwyr brynu a masnachu cyfranddaliadau. 

 Ymddiriedolaeth a berchnogir gan weithwyr

Mae’r model hwn yn golygu bod cyfran o gyfranddaliadau yn y cwmni’n cael eu dal yn yr ymddiriedolaeth ar ran y gweithwyr. Nid ydynt yn berchen ar unrhyw gyfranddaliadau yn uniongyrchol, ond byddant yn enwebu gweithwyr i fod yn gyfarwyddwyr cwmni ymddiriedolaeth a chynrychioli eu buddiannau.

Yn aml, cyfeirir at hyn fel model ‘John Lewis’, gan ei fod yn debyg i’r ffordd y mae partneriaid yn John Lewis a Waitrose yn arfer perchnogaeth.

Ymagwedd hybrid

Mae’r model hybrid yn gymysgedd o ymddiriedolaeth a berchnogir gan weithwyr a pherchen ar gyfranddaliadau yn unigol. Mae’r ymagwedd ymddiriedolaeth yn sicrhau bod yr holl weithwyr yn cael eu cynrychioli ac yn elwa ar berchnogaeth. Mae’r dewis (neu’r rhwymedigaeth) i brynu cyfranddaliadau yn sicrhau bod gan y gweithwyr fuddsoddiad go iawn yn y busnes.

Mae Gripple a’i riant-gwmni a berchnogir gan weithwyr, sef Glide, sy’n weithgynhyrchwr llwyddiannus iawn wedi’i leoli yn Sheffield, wedi defnyddio’r ymagwedd hon yn arbennig o dda.  


Dysgwch fwy am y gwahanol fodelau perchnogaeth gan weithwyr.


A hoffech chi siarad â rhywun am berchnogaeth gan weithwyr?

Cysylltwch â Busnes Cymru trwy ffonio 03000 603000 a dyfynnu ‘EO2019’. Byddwn yn falch o drefnu trafodaeth anffurfiol ag un o arbenigwyr Busnes Cymdeithasol Cymru ar berchnogaeth gan weithwyr. 
 
Lawrlwythwch ein canllawiau ar gynlluniau cyfranddaliadau ac ymddiriedolaethau buddiant i gael rhagor o wybodaeth am fodelau perchnogaeth gan weithwyr: