Beth yw’r strategaeth ymadael orau i mi, fy nghleientiaid a’m gweithwyr?

Mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnes cymdeithasol yn wynebu rhai dewisiadau cyfyngedig pan fyddant yn ystyried eu strategaeth ymadael. Mae’r rhain yn cynnwys trosglwyddo’r busnes i aelodau’r teulu, annog rheolwyr i’w brynu, gwerthu’r busnes i gystadleuwr neu gau’r busnes a gwerthu ei asedau. Gall rhai busnesau mwy o faint ystyried ‘mynd yn gyhoeddus’, ond nid yw’r dewis hwn ar gael i’r rhan fwyaf o fusnesau bach a chanolig (BBaChau). 

Gall pob un o’r strategaethau ymadael hyn fod yn ddewis addas, yn dibynnu ar yr hyn y mae perchennog y busnes yn gobeithio ei gyflawni trwy olyniaeth a’i ddyheadau ar gyfer dyfodol y busnes.

Mae perchnogaeth gan weithwyr yn ddewis arall sy’n cynnig cyfle i ymadael sy’n effeithlon o ran treth. Mae hefyd yn cynorthwyo gweithwyr y busnes a’u teuluoedd am y dyfodol rhagweladwy, yn ogystal â rhoi sicrwydd y bydd y busnes yn aros yn ei gymuned leol.

Yn yr adran hon, dangoswn rai o fuddion perchnogaeth gan weithwyr o gymharu â’r dewisiadau eraill mwyaf cyffredin. 

Gan eich bod chi bellach yn gyfarwydd â buddion perchnogaeth gan weithwyr fel strategaeth ymadael, dysgwch fwy am y broses o drosglwyddo i berchnogaeth gan weithwyr.

A hoffech chi siarad â rhywun am berchnogaeth gan weithwyr?

Cysylltwch â Busnes Cymru trwy ffonio 03000 603 000 a dyfynnu ‘EO2016’. Byddwn yn falch o drefnu trafodaeth anffurfiol ag un o arbenigwyr Busnes Cymdeithasol Cymru ar berchnogaeth gan weithwyr