BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymestyn cydnabyddiaeth marciau CE i fusnesau

Jack David Football Academy

Mae’r Adran Busnes a Masnach (DBT) wedi cyhoeddi estyniad amhenodol i'r defnydd o farciau CE ar gyfer busnesau, y tu hwnt i fis Rhagfyr 2024.  

Mae hyn yn berthnasol i 18 o reoliadau sy'n eiddo i DBT.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • teganau
  • pyrotechneg
  • badau hamdden a badau dŵr personol
  • llongau pwysedd syml
  • cydnawsedd electromagnetig
  • offerynnau pwyso anawtomatig
  • offerynnau mesur
  • poteli cynhwysydd mesur
  • lifftiau
  • offer ar gyfer atmosfferau ffrwydrol posibl (ATEX)
  • offer radio
  • offer pwysedd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • offer nwy
  • peiriannau
  • offer i'w ddefnyddio yn yr awyr agored
  • erosolau
  • offer trydanol foltedd isel

Mae rheolau gwahanol ar gyfer dyfeisiau meddygol, cynhyrchion adeiladu, ceblffyrdd, offer pwysedd cludadwy, systemau awyrennau di-griw, cynhyrchion rheilffordd, offer morol ac ecoddylunio. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol UKCA marking: conformity assessment and documentation - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.