BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y DU yn lansio porth i wneud cais am daliadau o £400 tuag at filiau ynni

Gall aelwydydd heb berthynas uniongyrchol â chyflenwyr trydan, fel y rheiny sy'n byw mewn cartrefi parc a chartrefi gofal, wneud cais drwy borth ar-lein diogel i dderbyn y gefnogaeth fel swm untro, nad oes angen ei ad-dalu o dan lwybr 'cyllid amgen' Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS AF) y Llywodraeth. Ar gyfer y rheiny sydd heb fynediad ar-lein, mae llinell gymorth bwrpasol i gwsmeriaid ar gael i gynorthwyo cwsmeriaid cymwys.

Ni fydd llywodraeth y DU fyth yn darparu unrhyw ddolenni i'r porth ymgeisio, nac yn gofyn yn uniongyrchol i unigolion wneud cais am y cymorth £400. Gall y rheiny sydd angen cymorth ychwanegol wrth wneud cais am gymorth ofyn am gymorth gan aelod o'r teulu neu ffrind y gellir ymddiried ynddo.

Mae Gweinidogion y DU yn annog pob aelwyd cymwys i wneud cais cyn gynted â phosibl am eu cefnogaeth, gan hefyd rybuddio aelwydydd i fod yn effro i sgamiau posibl a hysbysu awdurdodau perthnasol lle ceir amheuaeth amdanyn nhw.

Er mwyn gwirio cymhwysedd ac i wneud cais am y cymorth £400, mae angen i bobl chwilio am “Apply for energy bill support if you do not get it automatically" yn y bar chwilio ar GOV.UK neu mewn peiriant chwilio ar y rhyngrwyd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.