Gwell siawns o gael swyddi, mwy o foddhad â bywyd a help i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl yw rhai o'r manteision y mae dysgwyr ifanc wedi'u profi ers ymuno â Twf Swyddi Cymru+.
Yn rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu a chymorth cyflogadwyedd personol i bobl ifanc 16 i 19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar y canlynol:
- helpu pobl ifanc NEET i feithrin sgiliau, ennill cymwysterau a chael profiadau i'w galluogi i symud ymlaen tuag at gyflogaeth, gan gynnwys prentisiaethau neu at ddysgu ar lefel uwch
- helpu cyflogwyr sy'n cyflogi person ifanc – gan ddarparu cymhorthdal cyflog o hyd at 50 y cant o gostau cyflogaeth y person ifanc ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf.
Mae gwerthusiad annibynnol, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod llawer i'w ddathlu. Dywedodd 95% o'r rhai a holwyd a oedd wedi cwblhau'r rhaglen fod eu siawns o ddod o hyd i waith wedi cynyddu, gydag 82% o'r rhai a holwyd a oedd yn parhau ar y rhaglen yn cytuno bod eu lwfans hyfforddiant wedi helpu i leddfu pwysau ariannol.
Yn ogystal â'r cymorth hwn sy'n seiliedig ar waith, roedd yn galonogol iawn gweld bod 82% yn teimlo'n fwy bodlon â'u bywyd a bod 81% yn teimlo'n hapusach.
Ar y cyfan, mae'r data diweddaraf yn awgrymu bod 68% o'r rhai sy'n cymryd rhan yn llwyddo i gael canlyniad cadarnhaol o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen, a naill ai'n symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, cyflogaeth neu brentisiaeth.
Mae gwerthusiad terfynol yn mynd rhagddo a bydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2025.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: "Mae gen i lais nawr hefyd": pobl ifanc yn dathlu llwyddiant wrth i raglen gyflogaeth gynnig mwy na gwaith iddyn nhw | LLYW.CYMRU