BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mis Hanes Anabledd 2024

Wheelchair user working in an office

Mae Mis Hanes Anabledd yn gyfle i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle a herio'r stereoteipiau a'r rhwystrau a all eithrio pobl anabl o'r gwaith a'r gymdeithas.

Eleni, mae Mis Hanes Anabledd yn rhedeg rhwng 14eg o Dachwedd a’r 20fed o Ragfyr ac mae'n canolbwyntio ar fywoliaeth a chyflogaeth.

Trwy gydol Mis Hanes Anabledd rydym am godi ymwybyddiaeth am fanteision cyflogi pobl anabl, a thynnu sylw at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael i gyflogwyr.

Gall recriwtio pobl anabl arwain at amrywiaeth o fuddion sefydliadol:

  • Mynediad i gronfa recriwtio a thalent ehangach.
  • Adlewyrchu'r ystod amrywiol o gwsmeriaid a wasanaethir, a'r gymuned y mae’r sefydliad yn perthyn iddi.
  • Llai o ddyddiau sâl. Mae llawer o astudiaethau annibynnol yn cytuno bod gweithwyr anabl ar gyfartaledd yn cymryd llai o ddiwrnodau salwch na gweithwyr nad ydynt yn anabl (UN 2007).
  • Gwell enw da corfforaethol.

Nid yn unig cefnogi gweithwyr sydd ag amhariad yw'r peth iawn i'w wneud, ond mae ganddo fwy o fanteision, gan gynnwys buddion ariannol, na recriwtio a hyfforddi staff newydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau i gefnogi cyflogwyr i recriwtio a chadw gweithwyr anabl. I ddarganfod mwy, dewiswch y dolenni canlynol:

Cysylltwch a’r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru drwy ddanfon e-bost at hcpa@llyw.cymru neu chysylltwch gyda Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru: Catherine.Rowland@BusinessWales.org a Lisa.James-Gillum@BusinessWales.org


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.