BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mis Hanes Anabledd 2024 - Stori Evan

Evan Coleman

Trwy gydol Mis Hanes Anabledd rydym am godi ymwybyddiaeth am fanteision cyflogi pobl anabl, a thynnu sylw at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael i gyflogwyr.

Evan Coleman, Cynorthwyydd Fferylliaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg:

Cofrestrodd Evan ar Raglen Interniaeth â Chymorth yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym mis Medi 2022, gyda chefnogaeth Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth ELITE a Choleg Merthyr. Trwy gydol y flwyddyn academaidd, buodd Evan mewn nifer o leoliadau, gan ennill profiadau gwaith amrywiol. Dangosodd Evan sgiliau gwerthfawr sy'n hanfodol ar gyfer gweithio mewn amgylchedd ysbyty, a oedd yn amlygu ei botensial, ei bersonoliaeth swynol a'i addasrwydd ar gyfer gweithio yn y maes hwn.

Ar ôl cwblhau'r Interniaeth â Chymorth, llwyddodd Evan i sicrhau cyflogaeth yn yr Adran Fferylliaeth. Roedd y cyflawniad hwn yn dilyn proses gyfweld wedi'i haddasu, wedi'i theilwra i ddiwallu ei anghenion cymorth a sicrhau gwerthusiad teg a chefnogol o'i alluoedd. Mae rôl newydd Evan yn dyst i'w waith caled, ei allu i addasu a'r sgiliau gwerthfawr, a ddangosodd yn ystod ei interniaeth.

Gyda chefnogaeth ELITE, mae rôl Evan wedi'i chynllunio'n feddylgar i wella ei gryfderau, sy’n darparu manteision iddo ef a'i gyflogwr. Trwy gyfateb ei gyfrifoldebau gyda'i sgiliau ef ac amcanion y cwmni, gall Evan wneud cyfraniadau ystyrlon yn hyderus. Mae'r strategaeth hon nid yn unig wedi hybu cynhyrchiant, ond mae hefyd yn meithrin awyrgylch cadarnhaol yn y gweithle. 

Ar ôl dechrau gweithio, cafodd Evan Hyfforddwr Swyddi 1 i 1, a gyflwynodd Hyfforddiant mewn Cyfarwyddid Systematig yn unol â'r Model Cyflogaeth â Chymorth Ffyddlondeb Uchel.  Roedd hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth ddwys, unigol i helpu Evan gyda'i rwystrau i gyflogaeth a'i alluogi i lwyddo yn y gweithle. Mae'r Hyfforddwr Swyddi yn parhau i ddarparu cefnogaeth wedi'i thargedu’n benodol i Evan a'i gyflogwr, i greu amgylchedd cynhwysol, gyda phecynnau hyfforddi wedi'u teilwra ar gyfer tasgau newydd ac i gynnig adborth ac anogaeth barhaus.

Mae taith Evan drwy'r Rhaglen Interniaeth â Chymorth ac yna cael cynnig cyflogaeth dilynol yn yr Adran Fferylliaeth, yn amlygu effeithiolrwydd cefnogaeth wedi'i deilwra a hyfforddiant swydd. Trwy ganolbwyntio ar gryfderau Evan a darparu amgylchedd gwaith hyblyg, cefnogol, mae Evan a'i gyflogwr wedi elwa'n sylweddol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau i gefnogi cyflogwyr i recriwtio a chadw gweithwyr anabl. I ddarganfod mwy, dewiswch y dolenni canlynol:

Cysylltwch a’r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru drwy ddanfon e-bost at hcpa@llyw.cymru neu chysylltwch gyda Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru: Catherine.Rowland@BusinessWales.org a Lisa.James-Gillum@BusinessWales.org


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.