Mae Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth Straen a bydd adnabod arwyddion straen yn helpu cyflogwyr i gymryd camau i atal, lleihau a rheoli straen yn y gweithle.
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn gweithwyr rhag straen yn y gwaith trwy wneud asesiad risg a gweithredu arno. Gorau po gyntaf yr eir i’r afael â phroblem, fel bod y broblem yn cael llai o effaith.
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) amrywiaeth o gymorth ac arweiniad ymarfer: Working Minds - Work Right to keep Britain safe
Hefyd, mae gan yr arbenigwyr ar y gweithle, Acas, lawer o wybodaeth i helpu cyflogwyr, rheolwyr a staff i reoli Straen: Managing work-related stress - Acas
P’un a ydych chi’n hunangyflogedig neu’n berchennog busnes, dylem gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ac iechyd meddwl ein gweithwyr. Dysgwch ragor yma: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (llyw.cymru)