BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mwy na £1.7 biliwn yn cyrraedd busnesau yng Nghymru

Mae busnesau yng Nghymru wedi derbyn dros £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru ers dechrau'r pandemig.

Mae'r cyllid yn cynnwys dros £520 miliwn a ddarperir drwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, gyda mwy o daliadau'n cyrraedd cwmnïau bob dydd.

Mae dros 178,000 o grantiau gwerth cyfanswm o £1 biliwn wedi'u darparu drwy awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweinyddu cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru gan gynnwys y cynllun Ardrethi Annomestig, y Grant Dechrau Busnes a'r Gronfa Ddewisol.

Mae arian eisoes yn cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden o'r gronfa benodol i'r sector gwerth £180 miliwn a agorodd ddydd Mercher, 13 Ionawr 2021.

Mae'r gronfa sector-benodol yn parhau i fod ar agor ar hyn o bryd a gall busnesau ddarganfod a ydynt yn gymwys a gwneud cais drwy fynd i wefan Busnes Cymru.

I ddarllen y datganiad yn llawn ewch i wefan LLyw. Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.