Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi agor ffenestri ymgeisio ar gyfer dau wasanaeth ‘blwch tywod’ i gefnogi cwmnïau arloesol sy’n mynd i’r afael â heriau a achosir gan bandemig y coronafeirws (Covid-19).
Mae'r meysydd canlynol wedi'u nodi fel meysydd o bwys penodol i'r FCA:
- atal twyll a sgamiau
- cefnogi cadernid ariannol defnyddwyr bregus
- gwella mynediad at gyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint
Mae ffenestri ymgeisio bellach ar agor ar gyfer:
- Cohort 7 y Blwch Tywod Rheoleiddio, y dyddiad cau yw 31 Rhagfyr 2020
- Menter Blwch Tywod Digidol, y dyddiad cau yw 30 Hydref 2020
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan FCA.