BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Neges i bob busnes bwyd!

chef sorting out food waste in a kitchen

Ydych chi am warchod eich elw rhag bwyd sy'n cael ei wastraffu a thorri eich costau?

Bob blwyddyn, mae 1.1 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei daflu i ffwrdd ar draws y sector Gwasanaeth Lletygarwch a Bwyd (HaFS). Gellid bod wedi bwyta 75% o'r bwyd a wastraffwyd, gan gostio £3.2 biliwn i'r sector.

Mae Guardians of Grub, sy'n cael ei gyflwyno gan WRAP, yn cynnal ymgyrch drwy gydol mis Tachwedd i'r sector Gwasanaeth Lletygarwch a Bwyd gamu i fyny a lleihau eu gwastraff bwyd cyn eu mis prysuraf ym mis Rhagfyr.

Dangoswch i'ch timau ac yn allanol eich bod chi a'ch busnes wedi ymrwymo'n llwyr i leihau gwastraff bwyd – ac arbed arian hefyd.

Dyma rai o'r adnoddau y gallwch eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim:

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Food Matters: make it count – it’s time for action • Guardians of Grub


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.