A yw ymgorffori'n iawn i chi?
Os ydych yn ystyried ymgorffori neu wedi gwneud hynny'n ddiweddar, gall Tŷ'r Cwmnïau eich cyfeirio at offer, gwasanaethau a phartneriaid i helpu ar eich taith fusnes. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Set up a limited company: step by step - GOV.UK (www.gov.uk)
Marciau diogelwch cynnyrch newydd
Os yw eich cwmni'n gosod nwyddau ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, bydd angen i chi ddilyn rheolau marcio cynnyrch newydd o 1 Ionawr 2023. Mae llywodraeth y DU bellach wedi ei gwneud yn haws defnyddio'r marc diogelwch cynnyrch newydd, marc Asesedig Cydymffurfiaeth y DU (UKCA). Gall busnesau gyrchu’r canllaw cyfan ar GOV.UK.
Y diweddaraf am y Gofrestr Endidau Tramor
Mae Tŷ'r cwmnïau wedi cyhoeddi tair neges flog i’ch diweddaru am y Gofrestr Endidau Tramor. Mae'r gofrestr newydd yn cael ei chreu o dan yr Economic Crime (Transparency and Enforcement) Act. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i endidau tramor sy'n berchen ar dir neu eiddo yn y DU ddatgan eu perchnogion neu swyddogion rheoli llesiannol.