BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru – Arolwg Cyflogwr

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR) yn un o bedair partneriaeth ranbarthol ar draws Cymru. Mae’r PSR wedi’i ddatblygu i lywio dull strategol Llywodraeth Cymru o gyflwyno darpariaeth sgiliau a chyflogaeth drwy adnabod bylchau a phrinder sgiliau yn y rhanbarth, yn seiliedig ar fewnwelediad a arweinir gan gyflogwyr.

Rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil i ddeall anghenion sgiliau a chyflogaeth busnes y rhanbarth i ddatblygu ein Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth rhanbarthol tair blynedd nesaf 2022-25.

Rydym yn galw ar gyflogwyr i rannu eu profiad presennol gyda sgiliau a chyflogaeth, gan gynnwys eu barn ar anghenion sgiliau yn y dyfodol.

Nod yr ymchwil yw i gael gwell dealltwriaeth o’r cymorth sydd ei angen ar fusnesau ar draws Gogledd Cymru o ran sgiliau a chyflogaeth fel y gallwn bennu blaenoriaethau rhanbarthol a meysydd allweddol i’w datblygu i ddiwallu anghenion busnes.

Rydym wedi cynhyrchu arolwg sgiliau byr ar-lein ar gyfer busnesau yn y rhanbarth, na ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau. Bydd yr ymatebion o'r arolwg, ynghyd â gwybodaeth arall a dderbyniwyd trwy grwpiau ffocws cyflogwyr a chyfweliadau un i un â chyflogwyr yn rhoi sylfaen i ni o'r heriau a'r bylchau sgiliau sy'n wynebu busnesau ym maes sgiliau, hyfforddiant a datblygu'r gweithlu. Byddwn hefyd yn rhannu canlyniadau ein hymchwil gyda Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar bolisi sgiliau a darpariaeth ôl-16.

Rydyn ni eisiau i gynifer o gyflogwyr ar draws y rhanbarth o amrywiaeth o sectorau gael y cyfle i gydweithio â ni i gyd-ddatblygu’r cynllun sgiliau a chyflogaeth rhanbarthol newydd – a dyna lle rydych chi’n dod i mewn.

Dilynwch y ddolen isod er mwyn cwblhau arolwg byr ar-lein, na ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau. Bydd yr arolwg yn cau am 12pm ddydd Mawrth 31 Mai 2022.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/2ZVHFVJ
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.