BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Partneriaethau Cyfnewid Dylunio (DEPs): Dylunio'r Pontio Gwyrdd – Rownd 2

Group of People Applauding

Mae Partneriaethau Cyfnewid Dylunio (DEPs) yn brosiectau cydweithredol tair ffordd sy'n dwyn ynghyd ymchwilwyr dylunio ar ddechrau eu gyrfa, goruchwyliwr academaidd a sefydliad anacademaidd, fel busnes bach neu sefydliad y sector cyhoeddus.

Gwnewch gais am y rownd ddiweddaraf hon o gyllid grant i ddatblygu atebion a arweinir gan ddylunio (cynhyrchion, gwasanaethau a systemau) sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu bioamrywiaeth yn y DU. Rhaid i'r partneriaethau ddangos effaith bendant ar gymunedau lleol trwy ysgogi cymhwyso ymchwil dylunio o  ansawdd uchel, wedi’i harwain gan y celfyddydau a’r dyniaethau, yn y byd go iawn sy'n mynd i'r afael â heriau cyflawni nodau pontio gwyrdd.

Croesewir ceisiadau o ddehongliadau eang o'r thema bioamrywiaeth, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, un neu fwy o'r meysydd canlynol: 

  • adnoddau naturiol
  • deunyddiau
  • defnydd tir neu forol
  • iechyd a lles
  • adfywio a chynllunio

Gall cost economaidd lawn pob prosiect fod hyd at £62,500 am chwe mis neu £125,000 am 12 mis, yn ogystal â chyfraniad o bump i 10% gan y sefydliad partner anacademaidd. Bydd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn ariannu 80% o’r gost economaidd lawn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Medi 2023 am 4pm.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Design Exchange Partnerships | Future Observatory
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.