Mae cryn drafod a dadlau wedi bod am y thema hunangyflogaeth. Sut a pham mae unigolion yn dod yn entrepreneuriaid neu benderfynu mynd yn hunangyflogedig neu ddechrau eu busnes eu hunain? Yn amlwg, mae rhai yn cael eu gorfodi yn sgil colli swydd neu ddiswyddo yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond mae eraill mewn swyddi diogel da yn penderfynu mynd amdani hefyd!
Yr ail grŵp sydd o ddiddordeb mawr i ni – mae’n beth dewr i’w wneud. Ond yr hyn sy’n gyffredin ymysg llawer o’r unigolion hyn yw’r hyn a elwir yn “drobwynt”. Yr eiliad pan mae’r penderfyniad yn cael ei wneud – efallai ei bod wedi cymryd misoedd os nad blynyddoedd i gyrraedd fan hyn. Pan fo unigolion yn cyrraedd y pwynt hwn mae datgysylltiad â’u swydd bresennol ac ailgysylltiad emosiynol â’r byd newydd – yn aml mae’r byd newydd yn golygu dilyn angerdd dwfn i newid y byd gyda syniad a busnes newydd. Mae fel fflach o oleuni pan fo’r penderfyniad wedi ei wneud a does dim troi’n ôl!
Rydym ni’n credu bod y broses alinio’n digwydd gyda’r pen, y galon a’r waled:
- Pen – Mae popeth yn dod at ei gilydd ac rwy’n fodlon gyda’r ymchwil rwyf wedi’i wneud
- Calon – Rwy’n angerddol am yr hyn rwy’n ei wneud ac mae’n teimlo’n iawn
- Waled – rwy’n gallu cadw’r blaidd o’r drws ac rwyf wedi trefnu fy sefyllfa ariannol bersonol
Pan fo’r elfennau hyn yn alinio, rydych chi’n barod i fynd amdani! Pan nad yw’r tri pheth hyn yn cyd-daro y mae’r oedi’n digwydd – byddwch chi’n gwybod pan fyddwch chi’n barod i fynd amdani!
Os oes gennych chi syniad ac am fentro, EWCH AMDANI – ond cyn cymryd y cam mawr cyntaf gofalwch fod y pen, y galon a’r waled wedi’u halinio!
Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.