BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Perchnogion cŵn cymorth a'u hawliau

Merthyr Tydfil Labour Club

Nid anifeiliaid anwes yw cŵn cymorth ac anogir busnesau i ddiwygio unrhyw bolisi "dim cŵn" i un sy'n caniatáu mynediad i gŵn cymorth.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu canllaw i helpu busnesau twristiaeth groesawu pobl sydd â gofynion mynediad. Mae'n esbonio beth yw eich dyletswyddau cyfreithiol i berchnogion cŵn cymorth ac mae'n cynnwys rhai cwestiynau cyffredin.  Darllenwch y canllaw yma: Cymryd yr awenau: canllaw i groesawu cwsmeriaid a chŵn cymorth ganddynt | Equality and Human Rights Commission (equalityhumanrights.com)

Gall busnesau ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol arall isod:

  • Dysgwch fwy am ymgyrch Guide Dogs Open Doors yma: Access Refusal Campaigns | Guide Dogs UK
  • Gallwch weld y fideo ymwybyddiaeth a gynhyrchwyd gan Assistance Dogs UK (ADUK) sy'n tynnu sylw at y gwahanol fathau o gŵn cymorth a'u rolau, a hawliau perchnogion cŵn cymorth i gael mynediad at fusnesau gyda'u cŵn yma: Assistance Dogs UK - ADUK

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.