Ar ôl asesiad o’r amddiffyniadau sydd ar gael ar gyfer data personol y Deyrnas Unedig, mae Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg wedi penderfynu sefydlu Pont Ddata y DU-UDA gan ganiatáu llif data personol yn rhydd rhwng y DU a sefydliadau ardystiedig yn yr Unol Daleithiau. Gall unigolion o’r DU hefyd geisio camau unioni os ydynt o’r farn bod eu data personol wedi’i gasglu neu ei brosesu’n anghyfreithlon yn gysylltiedig â diogelwch cenedlaethol UDA.
Mae pontydd data’r DU yn sicrhau bod data personol yn cael ei gyfnewid yn rhydd ac yn ddiogel ar draws ffiniau. Mae’r eirfa newydd ‘pont ddata’ yn disodli’r eirfa yr arferid ei ddefnyddio, sef ‘penderfyniadau digonoldeb’.
Ar 21 Medi 2023, rhoddwyd yr offeryn statudol gerbron Senedd San Steffan a daeth i rym ar 12 Hydref 2023. O’r adeg hon ymlaen, mae sefydliadau wedi gallu anfon data i’r Unol Daleithiau o dan Estyniad newydd y DU i’r Fframwaith Preifatrwydd Data.
Mae ffeithlen i sefydliadau i’w gweld ar: UK-US data bridge: factsheet for UK organisations - GOV.UK
Mae dogfennau ategol pellach i’w gweld ar: UK-US data bridge: supporting documents - GOV.UK