Hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn ar gyfer llywio’r modd y datblygir llwybr datgarboneiddio Cymru tuag at Sero Net. Bydd hefyd yn darparu cam cychwynnol tuag at y posibilrwydd o ddatblygu Fframwaith Pontio Teg i Gymru.
Beth yw Pontio Teg?
Mae’r byd i gyd yn datgarboneiddio ac yn troi oddi wrth economi sy’n dibynnu ar danwydd ffosil. Nod pontio’n deg, wrth i ni symud at greu Cymru sy’n lanach, cryfach a thecach, yw bod neb yn cael ei adael ar ôl. Rhaid i ni ddeall effeithiau’r pontio – y rhai da a’r rhai drwg – a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu rhannu’n deg mewn cymdeithas. Wrth wneud, rydym yn ymrwymo i ddysgu gwersi’r gorffennol ac adeiladu dyfodol i Gymru sy’n cefnogi’r economi llesiant.
Beth yw pwrpas y Cais am Dystiolaeth?
Pwrpas y cais yw deall yn well effeithiau a chyfleoedd y pontio, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn deg. Bydd y Cais am Dystiolaeth yn ein helpu i ddatblygu llwybr datgarboneiddio Cymru tuag at fod yn sero net erbyn 2050. Mae’n gam cyntaf hefyd at ddatblygu Fframwaith Pontio Teg i Gymru fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2023.
Pwy fydd yn teimlo effeithiau’r newid i sero net?
Mae’n bosib y gallai pawb deimlo effeithiau’r newid a dyna pam rydyn ni’n gofyn am dystiolaeth, er mwyn deall y sefyllfa’n well. Mae’n debygol y bydd poblogaethau a grwpiau gwahanol mewn cymdeithas, gan gynnwys grwpiau incwm, cymunedau, gweithwyr a busnesau, yn gweld effeithiau a chyfleoedd gwahanol.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Pontio Teg tuag at Sero Net Cymru | LLYW.CYMRU
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 15 Mawrth 2023.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)