BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Prosiect i helpu pobl awtistig i baratoi ar gyfer gwaith

Mae Prifysgol Abertawe ac Imersifi (stiwdio meddalwedd) wedi dod at ei gilydd i ymchwilio ac archwilio sut y gall technoleg realiti rhithwir helpu'r gymuned awtistiaeth. Maen nhw eisiau cynhyrchu'r hyfforddiant hwn gyda'r gymuned awtistig a chyflogwyr.

Gellir profi realiti rhithwir drwy wisgo clustffonau. Mae'r clustffonau'n arddangos byd rhithwir lle gallwch brofi sefyllfaoedd newydd a rhyngweithio â gwrthrychau.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gyflogaeth a sut y gellir defnyddio'r dechnoleg i amlygu rhywun i amrywiaeth o heriau yn y gweithle y gellir dod ar eu traws, cyn eu profi go iawn, yn y gobaith y bydd hyn yn lleihau pryder.

Bydd yr arolwg byr hwn yn llywio'r penderfyniad ynghylch cynnwys i’w ddatblygu ar gyfer y byd rhithwir. 

I gael mwy o wybodaeth ac i lenwi’r arolwg, ewch i Autistic Employer Survey - Question 1 (google.com)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.