BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£10 miliwn ar gyfer prosiectau ynni cymunedol i bweru dyfodol gwyrdd Cymru

Ynni Cymru

Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun grant newydd i helpu i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun grant cyfalaf newydd gwerth £10 miliwn i helpu i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ledled Cymru. Mae'r fenter hon yn gam pwysig at wireddu amcan Cymru o gynhyrchu 100% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 gan roi'r grym i gymunedau i reoli ynni eu dyfodol.

Mae Ynni Cymru: rhaglen ariannu grant cyfalaf 2024 i 2025 yn agored i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig. Caiff ymgeiswyr eu hannog i ddatblygu prosiectau arloesol sy'n integreiddio cynhyrchu ynni, storio ynni a seilwaith ynni yn eu hardaloedd, i wneud systemau ynni yn fwy effeithlon ac i sicrhau manteision lleol, gan gynnwys costau ynni is.

Cafodd Ynni Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2023, a nod y rhaglen yw sicrhau bod buddion cynhyrchu ynni yn cael eu cadw'n lleol, gan hyrwyddo perchnogaeth leol o asedau ynni adnewyddadwy integredig mewn dwylo lleol fel strategaeth ganolog wrth bontio i economi carbon isel.

Bydd angen i brosiectau gael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2025.
Bydd ceisiadau am Grant Cyfalaf Ynni Cymru yn cau ar 5pm 18 Hydref 2024.

Gallwch gofrestru ar gyfer gweminar gyda rhagor o wybodaeth drwy ddewis y ddolen ganlynol: Ynni Cymru Capital Grant Funding Programme - launch webinar (office.com). Bydd y weminar yn cael ei chynnal rhwng 1pm a 2pm ar 12 Medi 2024.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, dewisiwch y ddolen ganlynol: Ynni Cymru: rhaglen ariannu grant cyfalaf 2024 i 2025.

Addewid Twf Gwyrdd
Cofrestrwch ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, ac ymrwymo i gamau cadarnhaol a fydd yn helpu eich busnes i leihau ei ôl troed carbon ac effeithio ar yr amgylchedd gan sicrhau perfformiad cynaliadwy ar yr un pryd.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.