BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£2.5 miliwn yn ychwanegol i helpu mwy o bobl ifanc i gael gwaith neu hyfforddiant pellach

Economy Minister, Vaughan Gething with a learner at Itec in Cwmbran

Mae rhaglen sy'n darparu'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc i gael swydd, neu barhau â'u hyfforddiant neu ddychwelyd i addysg yn cael £2.5 miliwn o gyllid ychwanegol.

A’r rhaglen honno yw Twf Swyddi Cymru+ sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 16-19 oed gael cyngor, hyfforddiant ac addysg, fel eu bod yn ennyn yr hyder i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynghylch cael hyfforddiant, gwaith teg neu ddechrau busnes.

Drwy’r rhaglen mae pobl ifanc yn cael cymorth wedi'i dargedu i hybu eu hyder, gan sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd – sy'n cynnwys oriau hyfforddi hyblyg, yn ogystal â help gyda chostau teithio, costau gofal plant ac offer arbenigol.

Mae hyfforddiant yn y gwaith hefyd ar gael, gan roi cyfle iddynt gael eu troed yn y drws a chael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb iddynt – ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorthdal cyflogau o hyd at 50% o gyflogau'r chwe mis cyntaf.

Mae cyllid ychwanegol wedi'i gyhoeddi mewn ymateb i'r galw mawr am y rhaglen newydd boblogaidd a lansiwyd yn 2022.

Wrth ymweld â darparwr dysgu seiliedig ar waith Twf Swyddi Cymru+ – sef Itec – yn eu canolfan sgiliau a chyflogaeth yng Nghwmbrân, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi y bydd £2.5 miliwn o gyllid yr UE yn helpu i gynyddu'r ddarpariaeth ledled Cymru am weddill y flwyddyn ariannol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:

Paratowch eich busnes drwy nodi bwlch sgiliau, datblygu sgiliau eich gweithle er mwyn sicrhau llwyddiant ac addasu eich gweithlu gyda gweithwyr medrus newydd.

Mae'r Sgiliau a Hyfforddiant yn darparu datblygiad sgiliau a chymorth i fusnesau, ac mae hefyd yn tynnu sylw at feysydd y gallech eu gwella: Croeso i Recriwtio a Hyfforddi - am wybodaeth a chyngor ar gymorth recriwtio a hyfforddiant | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.