Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30 miliwn pellach ar gyfer busnesau sector penodol sy’n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau parhaus yn sgil y coronafeirws.
Bydd y cyllid diweddaraf o’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei dargedu at fusnesau bach, canolig a mawr yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a busnesau cysylltiedig yn y gadwyn gyflenwi.
Mae’r ail gyfnod ymgeisio am y Gronfa Penodol i'r Sector bellach ar agor a bydd yn cau am 8pm ddydd Gwener 12 Mawrth 2021 neu hyd nes y bydd yr arian wedi'i ymrwymo'n llawn.
Ewch i wefan Busnes Cymru i ddefnyddio’r gwiriwr cymhwysedd a chyfrifiannell i’ch helpu i weld pa gymorth y gallai’ch busnes fod yn gymwys amdano yn y cylch diweddaraf hwn ac i ddeall y manylion y byddwch eu hangen i wneud cais.
Dim ond busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth neu fusnesau cysylltiedig yn y gadwyn gyflenwi sy’n cyflogi deg aelod staff neu fwy fydd yn gallu gwneud cais.
I ddarllen y datganiad llawn ewch i Llyw.Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Busnes Cymru.