BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£300 miliwn i fusnesau yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn dyblu trydydd cam ei Chronfa Cadernid Economaidd i bron £300 miliwn er mwyn helpu busnesau sy’n dal i deimlo effeithiau COVID-19.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n ategu cynlluniau cymorth Llywodraeth y DU, yn rhan o becyn cymorth o £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau Cymru i ddelio ag effeithiau economaidd y coronafeirws.

Dyma fydd yn y pecyn economaidd newydd a chryfach hwn:

  • taliadau o £1,000 i fusnesau sy’n gymwys am y cymorth ardrethi i fusnesau bach â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai
  • taliadau o hyd at £5,000 i fusnesau adwerthu, lletygarwch a hamdden sy’n gorfod cau ac sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000
  • grant chwyddo dewisol o £2,000 i fusnesau sydd wedi gorfod cau dros y cyfnod atal byr neu y bydd y cyfnod atal wedi cael effaith faterol arnynt
  • grant dewisol arall o £1,000 i fusnesau y cafodd y cyfyngiadau lleol effaith faterol arnynt am 21 niwrnod neu fwy cyn dechrau’r cyfnod atal byr

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £20 miliwn arall ar gyfer Grantiau Busnes sy’n golygu y bydd £100 miliwn ar gael at y diben hwn. O’r blaen, roedd disgwyl i fusnesau allu darparu canran o’r cyllid er mwyn gallu hawlio’r grantiau hyn, ond mae  Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bellach y bydd yn darparu 100% o’r grant i fusnesau sydd wedi cael eu gorfodi i gau yn ystod y cyfnod atal byr.

Cewch fwy o wybodaeth ar dudalennau COVID-19 Cymorth I Fusnesau . Byddwn yn ei diweddaru’n rheolaidd wythnos hon. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.