BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£460 miliwn o gymorth ardrethi i helpu busnesau sy’n ei chael yn anodd ymdopi â chostau uwch

Bydd pob busnes yng Nghymru yn elwa ar gymorth ardrethi newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu gydag effeithiau costau cynyddol.

Bydd pecyn cymorth sy’n werth mwy na £460 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf yn cael ei gyhoeddi yn y Gyllideb ddrafft sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y pecyn yn rhoi hwb i fusnesau ledled Cymru sy’n ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau chwyddiant uchel a chostau ynni cynyddol. Dyma gymorth sy’n ychwanegol at gynlluniau rhyddhad parhaol gan Lywodraeth Cymru sydd eisoes yn darparu £240 miliwn o ryddhad i dalwyr ardrethi ledled Cymru eleni.

Mae’r lluosydd ardrethi annomestig yn aros yn ei unfan ar gyfer 2023-24, sy’n cyfateb i gost o fwy na £200 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn sicrhau unwaith eto na fydd cynnydd ar sail chwyddiant i’r ardrethi sy’n cael eu talu gan fusnesau a thalwyr ardrethi eraill.

Bydd £113 miliwn arall yn cael ei ddarparu dros y ddwy flynedd nesaf i roi rhyddhad trosiannol i bob talwr ardrethi y mae ei filiau’n cynyddu mwy na £300 yn dilyn yr ymarfer ailbrisio ledled y DU, sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2023.

Bydd £140 miliwn arall yn cynorthwyo busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Bydd talwyr ardrethi cymwys yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 75% ar gyfer 2023 24, sy’n gynnydd o’r rhyddhad a ddarparwyd yn 2022-23, sef 50%.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol £460 miliwn o gymorth ardrethi i helpu busnesau sy’n ei chael yn anodd ymdopi â chostau uwch | LLYW.CYMRUDatganiad Ysgrifenedig: Cymorth ardrethi annomestig ar gyfer 2023-24 (12 Rhagfyr 2022) | LLYW.CYMRU

Mae Busnes Cymru yma i gefnogi busnesau drwy'r argyfwng costau byw i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.