BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pwynt lansio: diwydiant net sero, De-orllewin Cymru – digwyddiad briffio am gystadleuaeth

business people working on sustainable innovation project - Green renewable energy concept

Bydd ‘Pwynt lansio: diwydiant sero net, De-orllewin Cymru’ - sef prosiect partner sy’n adeiladu ar lwyddiant Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) hen sefydledig y rhanbarth - yn elwa o hyd at £7.5 miliwn o fuddsoddiad newydd i sbarduno arloesedd a thwf busnes yr ardal ym maes technolegau adnewyddadwy.

Gall busnesau ac ymchwilwyr ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig elwa o raglen y Pwynt Lansio - ar yr amod bod eu prosiect yn cael effaith uniongyrchol ar ranbarth De-orllewin Cymru, sy’n cynnwys Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro.

Gall busnesau wneud cais am grantiau cystadleuol, gyda chymorth arall, ar gyfer prosiectau arloesedd sy’n canolbwyntio ar dechnolegau i helpu’r rhanbarth i newid i sero net - fel buddsoddiadau ynni gwynt alltraeth arnofiol, cynhyrchu a dosbarthu hydrogen gwyrdd neu las, dal a storio CO2, a datrysiadau tanwydd cynaliadwy.

Mae’r cyllid grant sydd ar gael yn dechrau o £25,000, gyda hyd at £1 filiwn ar gyfer prosiectau sy’n eithriadol o fuddiol i’r clwstwr. Bydd y gystadleuaeth yn agor ar 30 Hydref 2023 a bydd yn cau ar 13 Rhagfyr 2023.

Ymunwch â’r digwyddiad briffio am y gystadleuaeth ar-lein, a fydd yn digwydd ar 9 Tachwedd 2023 am 11am.

I gael gwybod mwy, dewiswch y ddolen ganlynol Eventbrite

Mae gen Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.

Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: CRISP23 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.