BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Pwysigrwydd meithrin perthynas ag eraill

Bydd meithrin perthynas gadarn â’ch cydweithwyr, rhanddeiliaid, partneriaid a chwsmeriaid yn cynyddu lefel eich ymgysylltiad â nhw, gan eich helpu o bosibl i gyflawni’ch nodau. Hefyd, mae’r broses o greu partneriaeth gytûn ag eraill yn rhoi boddhad mawr i chi gan ei fod yn golygu bod eich bywyd a’ch gwaith yn bleserus ac yn werth chweil.

Dydy perthynas dda ag eraill ddim yn digwydd dros nos – mae’n datblygu ac yn tyfu dros amser. Mae perthynas ag eraill yn datblygu wrth i’r ddwy ochr nesáu at ei gilydd.  

Mae partneriaethau a chynghreiriau cynaliadwy â’ch grwpiau rhanddeiliaid yn seiliedig ar dri cham:

Hedyn – Man cychwyn perthynas yw’r ddwy ochr yn dod i adnabod ei gilydd. Mae angen gosod sylfeini cadarn a gwneud y pethau bychain sy’n sicrhau ymddiriedaeth sylfaenol. Er enghraifft, mae ennill archeb gan gwsmer newydd yn golygu eich bod yn cyflenwi’r gwasanaeth yn brydlon a bod y gwasanaeth ei hun yn rhagorol. Os ydych newydd sicrhau swydd newydd, dylech fod yn brydlon, yn ymroddgar ac yn frwdfrydig. Rhaid i chi ddangos eich bod yn barod i fwrw iddi o’r cychwyn cyntaf.

Meithrin – Ewch ati i ymestyn y berthynas drwy fentro ymhellach. Er enghraifft, gallwch gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd i’ch cwsmer newydd. Ar ôl ymgartrefu yn y swydd newydd, gallwch dderbyn mwy o gyfrifoldeb ac ymddwyn mewn ffordd ragweithiol gan ddangos mentergarwch. Rhaid dangos eich bod wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu a chyflawni’r amcanion a bennwyd i chi.

Ffynnu – Datblygwch yr ewyllys da a gafodd ei greu trwy’r camau blaenorol. Ewch ati i fynd â’r berthynas i lefel uwch trwy neilltuo amser ar gyfer gweithgareddau sy’n ymestyn y diwrnod gwaith arferol. Rhannwch amser personol o fewn y fframwaith a pharamedrau ymddygiad proffesiynol. Ceisiwch ragori ymhellach o safbwynt eich perfformiad - gan gyflawni’r annisgwyl.

Mae angen amser i feithrin perthynas ag eraill, felly peidiwch â rhuthro’r broses. Mae’n rhaid i’r berthynas ddatblygu’n naturiol ac mae’n bwysig ystyried pawb er mwyn osgoi creu unrhyw broblemau i chi’ch hun!

"Mae perthynas WYCH ag eraill yn seiliedig ar FWY o atebion cadarnhaol na negyddol." Adolygiad Busnes Prifysgol Harvard

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.