Bob blwyddyn mae Pythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl ledled y DU ddathlu cyflawniadau Masnach Deg a dysgu mwy am y gwahaniaeth mae Masnach Deg yn ei wneud.
Cynhelir yr ymgyrch eleni rhwng 21 Chwefror a 6 Mawrth 2022 a'r thema yw Dewis y Byd yr ydych ei Eisiau.
Sut i gymryd rhan:
- estyn allan at grwpiau a busnesau lleol eraill i rannu'r neges Masnach Deg
- defnyddio adnoddau'r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys negeseuon a baneri ar gyfer eich cyfrif facebook, twitter ac instagram y gallwch eu defnyddio i ledu'r gair ar-lein ac ychwanegu mwy o leisiau
- Darllen straeon gan ffermwyr sydd wedi'u heffeithio gan newid hinsawdd
- Dysgu mwy am pam mae dewis cynnyrch Masnach Deg yn golygu dewis brwydro yn erbyn newid hinsawdd gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://www.fairtrade.org.uk/get-involved/current-campaigns/fairtrade-and-climate-justice/
Am ragor o wybodaeth ewch i Bythefnos Masnach Deg – Y Sefydliad Masnach Deg