Mae Rhaglen Arloesi Busnes Byd-eang (GBIP) Innovate UK yn helpu busnesau bach a chanolig arloesol i gydweithio ac archwilio marchnadoedd byd-eang, gan gyflymu twf busnes.
Mae pob GBIP, sy'n canolbwyntio ar farchnad a thechnoleg neu faes sector penodol, yn cynnwys carfan o hyd at 15 o fusnesau arloesol uchelgeisiol yn y DU sy'n awyddus i dyfu ac ehangu’n fyd-eang. Nod y rhaglen yw helpu busnesau i archwilio cyfleoedd yn y dyfodol ac i ddeall yn well yr hyn sydd ei angen i fod yn llwyddiannus ar y llwyfan byd-eang.
Mae’r GBIP yn darparu gwybodaeth fanwl am y farchnad, dealltwriaeth ddiwylliannol, a chyflwyniadau a chysylltiadau, gan gynnig cyfleoedd a allai fod yn anodd i BBaChau fanteisio arnynt heb gymorth. Mae pob busnes yn cael cefnogaeth gan arbenigwr arloesi a thwf Twf Busnes Innovate UK i helpu i wneud y mwyaf o’r potensial a ddaw o fod yn rhan o’r rhaglen a thu hwnt.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Rhaglen Arloesi Busnes Byd-eang, rhaid i chi fod yn gwmni bach neu ganolig sydd wedi'i leoli yn y DU. Mae angen i uwch aelod o staff y cwmni ymrwymo i fod yn rhan o bob cam o'r rhaglen.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Global Business Innovation Programme | Innovate UK Business Growth (ukri.org)
Gall Arloesi Busnes Cymru helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a chyrraedd marchnadoedd newydd.