BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota

Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota, Glannau Dyfrdwy, wedi cydweithio i gynnig cyfle unigryw i fusnesau yng Nghymru i sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn cystadleurwydd.

Nod y rhaglen yw cyflwyno gwelliannau mesuradwy o ran cynhyrchiant, drwy rannu a darparu hyfforddiant mewn egwyddorion rheoli darbodus. 

Bydd ymarferwyr Toyota profiadol yn darparu cymysgedd o'r canlynol i’r rhai sy’n cymryd rhan: 

  • Theori ystafell ddosbarth. 
  • Arsylwi manwl ar lawr y siop.  
  • Enghreifftiau o ddefnydd ymarferol wedi'u cyflwyno yng nghyfleuster injan Toyota ar Lannau Dyfrdwy.
  •  Hyfforddiant ar safleoedd gwaith cwmnïau sy'n cymryd rhan i gefnogi gwelliannau o ran cynhyrchiant. 

Mae Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota yn cynnwys tair elfen annibynnol:

  • Cyflwyniad – I gwmnïau sy'n newydd i'r cysyniad darbodus (‘lean’), cyflwyniad i egwyddorion darbodus a Dull Toyota drwy sesiynau blasu 1 diwrnod a gynhelir ar Lannau Dyfrdwy. Gyda 50% o gymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd y sesiynau hyn yn costio £190 y pen heb TAW.
  • Cychwyn Darbodus – Rhaglen hybrid ar gyfer cwmnïau sy'n barod i newid sy'n cynnwys 3 diwrnod o hyfforddiant yn Toyota Glannau Dyfrdwy ynghyd â 5 diwrnod o gymorth prosiect ymarferol gan hyfforddwr Toyota ar safle eich cwmni eich hun. Ar ôl 75% o gymorth gan Lywodraeth Cymru, y gost fesul cwmni i hyd at 3 chynrychiolydd yw £1,703.33 heb TAW. 
  • Darbodus Plws – Mae Darbodus Plws yn darparu 10 diwrnod o gymorth i gwmni gan hyfforddwr Toyota a fydd yn helpu i gychwyn ac arwain prosiectau darbodus mwy trawsnewidiol. Gyda 50% o gymorth gan Lywodraeth Cymru, cost Darbodus Plws yw £3,180 fesul cwmni heb TAW.

Rhwydweithiau Darbodus
Bydd y rhaglen yn cefnogi Rhwydwaith Darbodus gan roi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan greu cysylltiadau, ymgysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota Llywodraeth Cymru cysylltwch â TLMP@gov.wales 

Am fwy o wybodaeth ar egwyddorion darbodus a Dull Toyota, ewch i weld ein gwefan a'n tudalen adnoddau


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.