Mae’r Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr wedi’i chynllunio gan ddilyn amcan Gweinidogion i gynyddu amrywiaeth ymhlith aelodau o fyrddau cyrff cyhoeddus, a hynny’n unol â’r strategaeth a nodir yn ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru – Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru’.
Y nod yw creu cyflenwad cadarn o ddarpar aelodau bwrdd, gan sicrhau bod unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a phobl anabl o safon uchel a chanddynt arbenigedd a sgiliau da, ac sydd bron yn barod i ymgeisio, yn gallu cymryd rhan mewn rhaglen arweinyddiaeth lefel uchel ar gyfer datblygu byrddau.
Gan gymryd camau cadarnhaol i gynyddu cynrychiolaeth ar fyrddau cyhoeddus o grwpiau gwarchodedig penodol, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu dwy Raglen i Ddarpar Arweinwyr yn 2022 sydd wedi’u hanelu’n benodol at arweinwyr yng Nghymru sydd:
- Pobl anabl.
- Unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Nod y rhaglenni yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau arbenigol i arweinwyr i’w galluogi i gyflawni rôl aelod o fwrdd corff cyhoeddus.
Nod y rhaglen yw darparu’r canlynol i gyfranogwyr:
- Dealltwriaeth o ddynameg a threfn bwrdd.
- Dealltwriaeth well o waith cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
- Y gallu i nodi a defnyddio’u sgiliau diriaethol i gael swydd ar fwrdd a llwyddo ynddi.
Mae lleoedd ar y rhaglen yn gyfyngedig. Os hoffech wneud cais, gofynnwn ichi gwblhau’r datganiad mynegi diddordeb, drwy ddilyn y ddolen Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr 2022 (office.com), erbyn 4 Mai 2022 fan bellaf.