BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhybudd am sgamiau i gwsmeriaid credydau treth

Mae CThEM wedi rhybuddio y dylai cwsmeriaid credydau treth fod yn wyliadwrus ac yn effro i’r posibilrwydd o sgamiau.

Gallai pobl sy’n adnewyddu eu credydau treth ac sydd wedi derbyn e-bost neu neges destun ffug ynghylch trethi neu fudd-daliadau gael eu twyllo i feddwl bod y neges wedi dod gan CThEM a rhannu eu manylion personol gyda throseddwyr, neu hyd yn oed drosglwyddo arian oherwydd honiad ffug o ordaliad.

Mae llawer o sgamiau’n dynwared negeseuon gan y llywodraeth er mwyn ymddangos yn ddilys a rhoi sicrwydd i bobl. Mae CThEM yn frand cyfarwydd, ac mae troseddwyr yn ei gam-ddefnyddio i wneud eu sgamiau’n fwy credadwy. 

Os nad oes modd i gwsmer wirio pwy yw person ar ben arall y ffôn, mae CThEM yn cynghori na ddylai siarad â’r person. Gall cwsmeriaid edrych ar restr sgamiau CThEM ar wefan GOV.UK i gael gwybod sut i riportio sgamiau treth ac i gael gwybodaeth am sut i adnabod cyswllt dilys gan CThEM.

Mae angen i gwsmeriaid roi gwybod i CThEM cyn 31 Gorffennaf 2021 am unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eu hawliadau. Os na fydd cwsmeriaid wedi derbyn eu pecyn adnewyddu erbyn 4 Mehefin 2021, bydd angen iddyn nhw gysylltu â CThEM.
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.