BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Safonau, codau a rheolau ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu

Safety hat on a desk

O fis Ebrill 2024 bydd gofyn i arolygwyr adeiladu a chyrff rheoli adeiladu gydymffurfio â safonau, codau a rheolau o dan newidiadau i Ddeddf Adeiladu 1984, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.

Cyflwynodd Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 ofynion newydd ynghylch cofrestru a thrwyddedu ar gyfer arolygwyr adeiladu ac cymeradwywyr rheolaeth adeiladu. Mae Gweinidogion Cymru wedi penodi'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR) i oruchwylio a gorfodi gofynion newydd o'r ddeddfwriaeth hon.

Mae cofrestru ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithio ym maes Rheoli Adeiladu yng Nghymru wedi agor. 

Daw y ddeddf newydd i rym ar 6 Ebrill 2024 felly cofrestrwch cyn hynny:

Wrth lenwi'r ffurflen gais, mae angen i ymgeiswyr ddewis eu bod am gael eu cofrestru ar gyfer 'Cymru' neu fel arall gallant ddewis 'Cymru' a 'Lloegr' os ydynt yn gweithio ar draws ffiniau.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Safonau, codau a rheolau ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu | LLYW.CYMRU

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi neu os hoffech gael eich cynnwys ar ein rhestr ddosbarthu: enquiries.brconstruction@gov.wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.