BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sicrhau dyfodol gwyrdd Cymru, Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio

Wind farm - Wales

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Jeremy Miles wedi lansio'n swyddogol y datblygwr ynni adnewyddadwy Cymru, sefydliad cyhoeddus o’r enw Trydan Gwyrdd Cymru.

Mae'r cwmni wedi cael ei sefydlu i gyflymu'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni gwynt ar y tir, ar ystâd gyhoeddus ehangach Cymru, ac i gynyddu eu gwerth ar gyfer pobl Cymru cymaint ag y bo modd.

Bydd tîm Trydan Gwyrdd, a leolir ym Merthyr Tudful, yn gweithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu ffermydd gwynt ar yr ystad goetir. Byddan nhw'n dechrau ymgysylltu â chymunedau ar bwys y safleoedd cyntaf cyn gynted â phosibl.

Yn y lansiad ym Mryncynon, nododd Jeremy Miles gynlluniau tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio a chyflenwadau ynni gwyrddach, mwy cynaliadwy, a chyhoeddodd y byddai Strategaeth Wres yn cael ei chyhoeddi – sy'n nodi map ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwresogi cartrefi, eiddo masnachol a diwydiant fel rhan o'i hymrwymiadau sero net. Gyda gwres yn cyfrif am 50% o'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru, y mae 75% ohono'n dod o danwyddau ffosil, mae'r strategaeth yn edrych ar draws cartrefi, busnesau, diwydiant a'r sector cyhoeddus ar yr hyn y bydd angen i bob maes ei roi ar waith i sicrhau system ynni carbon isel.

Un enghraifft sy'n cael ei ystyried yw a ellir defnyddio dŵr cynnes o hen byllau glo i wresogi cartrefi mewn hen gymunedau glofaol. Newydd ddechrau mae'r gwaith hwn, ond mae'r Awdurdod Glo wedi cynhyrchu mapiau manwl sy'n nodi ble mae dŵr mewn pyllau glo y gellid cael mynediad ato, a bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw a'r awdurdodau lleol perthnasol i fanteisio i'r eithaf ar ganlyniadau anfwriadol treftadaeth lo Cymru i ategu'r gwaith o sicrhau cymdeithas sero net.

I weld y datganiad llawn cliciwch ar y ddolen ganlynol: Sicrhau dyfodol gwyrdd Cymru, Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio | LLYW.CYMRU.

Os ydych chi am fentro i'r sector gwynt ar y môr? Mae cyfleoedd ariannu a chymorth ar gael drwy'r Bartneriaeth Twf Ynni Gwynt Alltraeth. Dewiswch y ddolen ganlynol Funding Opportunities – Offshore Wind Growth Partnership (owgp.org.uk).

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.