Bydd Sioe Frenhinol Cymru 2025 yn cael ei chynnal rhwng 21 Gorffennaf a 24 Gorffennaf.
Ynghyd â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau da byw, gyda chystadleuwyr yn teithio o bell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth i ddiddori pawb yn sgil ei hamrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd cyffrous.
Mae gan Sioe Frenhinol Cymru ystod enfawr o gyfleoedd masnachol i gwmnïau sydd â chynnyrch, gan gynnwys rhai ym maes amaethyddiaeth, moduro, celf a chrefft, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, ategolion garddio, pob math o gynhyrchion ar gyfer y cartref a llawer mwy.
Ffeithiau am y Sioe Frenhinol:
- Bydd ymwelwyr yn gwario bron i £10 miliwn wrth ymweld â’r Sioe Frenhinol
- Amcangyfrifir bod gwerthiant eilaidd (masnach busnes yn bennaf) yn werth dros £6 miliwn
- Mae'n debygol y bydd £3 miliwn ychwanegol o fudd economaidd wrth i'r gwerthiant symud i lawr y gadwyn gyflenwi
- Mae 82% o fasnachwyr wedi bod â stondinau masnach yn y sioe mewn blynyddoedd blaenorol
- Roedd 83% o fasnachwyr yn teimlo bod y proffil ymwelwyr yn cyd-fynd â’u disgwyliadau
- Dywedodd 9 o bob 10 masnachwr eu bod yn credu y byddent yn mynd i’r sioe y flwyddyn nesaf
- Roedd 70% o fasnachwyr wedi’u cymell i fynd i’r sioe i hyrwyddo eu brand, roedd 55% yn gobeithio gwneud gwerthiannau uniongyrchol
- Dywedodd 96% o fasnachwyr y byddent yn argymell Sioe Frenhinol Cymru i eraill!
Os hoffech arddangos yn y prif ddigwyddiad yng Nghymru, dewiswch y ddolen ganlynol: Ymgeisiwch am stondin masnach - Sioe Frenhinol
Dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb Newydd - 1 Mawrth 2025.
Y Neuadd Fwyd - I gael gwybodaeth am wneud cais am stondin yn y neuadd fwyd, cysylltwch â Laura Alexander ar foodhall@rwas.co.uk. Rhaid i stondinwyr fod wedi’u lleoli yng Nghymru i arddangos yn y neuadd hon.
Arlwyo Symudol a Bariau - Bydd proses dendro ar wahân yn cael ei chynnal ar gyfer contractau arlwyo yn gynnar yn 2025, anfonwch e-bost at tradestands@rwas.co.uk os ydych chi eisiau mynegi diddordeb.