BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioeau Teithiol Diwydiant Digwyddiadau Busnes MeetInWales

Ydych chi:

  • Eisiau tyfu busnes a chynyddu refeniw ar gyfer eich lleoliad neu'ch busnes twristiaeth?
  • Eisiau lleihau effeithiau natur dymhorol?
  • Eisoes yn gweithio yn y sector digwyddiadau busnes ac eisiau dysgu sut i dyfu eich cyfran o'r farchnad, miniogi sgiliau a manteisio ar gymorth a phartneriaethau o MeetInWales a'ch Sefydliad Rheoli Cyrchfannau lleol?

Os ydych wedi ateb ‘ydw’ i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, yna mae ein gweithdai addysgiadol a rhyngweithiol sy'n digwydd ledled Cymru ym mis Ebrill yn addas i chi. Maent yn rhad ac am ddim i'w mynychu ac yn agored i bob busnes yng Nghymru sydd â diddordeb mewn digwyddiadau busnes.

I gofrestru, cliciwch ar un o'r dolenni isod ar gyfer ar eich hoff leoliad:

Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Mae twristiaid yn gwario tua £17 miliwn y dydd pan fyddant yma yng Nghymru, sy'n cyfateb i tua £6.3 biliwn y flwyddyn. Gall bod yn berchen ar, a rhedeg, eich busnes twristiaeth eich hun fod yn werth chweil iawn.

P'un a ydych chi'n ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eisoes wedi cymryd yr ychydig gamau cyntaf neu eisiau tyfu eich busnes presennol, cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth Twristiaeth | Busnes Cymru (llyw.cymru)


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.