P'un a ydych chi'n entrepreneur yn barod, neu’n dyheu am fod, mae’r StartUp Show 2025 yn hanfodol ar eich cyfer. Dyma'ch cyfle i ddarganfod popeth y mae angen i chi ei wybod am ddechrau busnes, a chysylltu â chynghorwyr ac arbenigwyr busnes a fydd yn helpu i fynd â'ch menter i'r lefel nesaf.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys 5 llwyfan StartUp Show, dros 50 o siaradwyr arbenigol, a chyfleoedd lu i rwydweithio â pherchnogion neu ddarpar berchnogion busnesau eraill o bob sector dan haul.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Sancroft, Sant Paul yn Llundain ar 25 Ionawr 2025. Gallwch ymuno wyneb yn wyneb neu wylio’r prif lwyfan yn rhithiol.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich tocyn dewiswch y ddolen ganlynol: StartUp Show: The UK's biggest start-up event of the new year Tickets, Sat 25 Jan 2025 at 09:30 | Eventbrite
P'un a ydych chi wedi bod eisiau dechrau eich busnes eich hun erioed, neu bod amgylchiadau'n mynnu eich bod yn ystyried hunangyflogaeth, mae Busnes Cymru yma i helpu. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Dechrau Busnes a Chynllunio Busnes | Busnes Cymru