BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Straen Cysylltiedig â Gwaith – cyngor i gyflogwyr

Mae cyfraddau straen, iselder a gorbryder sy’n gysylltiedig â gwaith wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac roedd y llynedd yn llawn heriau newydd nad oedd wedi’u hwynebu o’r blaen. 

Bydd cydnabod arwyddion straen yn helpu cyflogwyr i gymryd camau er mwyn atal, lleihau a rheoli straen yn y gweithle. 
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu gweithwyr cyflogedig rhag straen yn y gwaith drwy wneud asesiad risg a gweithredu arno. Wrth fynd i’r afael â phroblem yn gynnar, bydd effeithiau’r broblem yn llai. 

Os oes gennych chi asesiad risg ar waith eisoes, ystyriwch a ydych chi angen ailasesu’r sefyllfa oherwydd y newidiadau a’r heriau sydd wedi dod yn sgil COVID-19.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch amrywiaeth o ganllawiau a chymorth ymarferol ar gael yn cynnwys templedi asesu risg, pecyn cymorth sgwrsio er mwyn helpu i gychwyn sgyrsiau, llyfrynnau gwaith, posteri, ap symudol newydd ac adnodd awtomataidd newydd i ddangos straen.

Am ragor o wybodaeth ewch i adran straen gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae gan Acas, arbenigwyr y gweithle, lawer iawn o adnoddau rhad ac am ddim hefyd er mwyn helpu cyflogwyr, rheolwyr ac aelodau staff i gefnogi iechyd meddwl. 

Ewch i’r tudalennau Diogelu Cymru yn y Gweithle ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.